sylfaenwr Wms a Wms






sylfaenwr Wms a Wms






mynedfa Wms a Wms






arwydd Wms a Wms





AMDANOM NI

Chydig o hanes

Yn wreiddiol melin ddŵr oedd Melin Plas Du, a bu’n masnachu ers dros 800 mlynedd. Arferid storio, malu a chludo grawn o’r felin i’r becysiau i fwydo’r seiri meinia’r labrwyr yn codi Castell Caernarfon. Y mae adeilad y swyddfa’n dyddio’n ôl i 1197.

Partneriaid

Sefydlwyd Williams a Williams yn 1920 gan ddau ffrind o’r un enw sef David Williams, ac yr oedd un ohonynt yn hen ewythr i’r perchennog presennol.

Cymryd drosodd

Tua 1961 prynwyd y cwmni gan ewythr y perchennog, William E Jones, a oedd ei hun yn nai i un o’r Williamsiaid gwreiddiol. Rhedodd yntau’r busnes yn llwyddianus hyd y gorfodwyd ef i ymddeol yn 1987 oherwydd gwaeledd a phryd y prynodd y perchennog presennol y busnes a erys yn y teulu.

Buddsoddi

Yn 1987 cynnwys Williams a Williams oedd un lori sgip ac un lori tipar.Gwnaed buddsoddiadau helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau enw da Williams a Williams heddiw.

Oherwydd y lleoliad gwledig ar Benrhyn Llŷn, rhan mwyaf gorllewinol Gogledd Cymru, yr oedd arallgyfeirio’n hanfodol. Nid yw arbenigo yn gynaliadwy, fodd bynnag y mae amrywiaeth y gwasanaethau a gynigir yn ategu ac yn aml iawn y mae un maes o waith yn arwain i faes arall.

Yn niwedd yn 80au a’r 90au cynnar yr oedd costau tipio ar gyfer gwastraff yn isel iawn, ond y maent wedi raddol godi dros y blynyddoedd. Ers dod mewn a threth tirlenwi, y mae costau tipio wedi dod yn un o’r prif faterion yn economeg Gwaredu Gwastraff i’r fath raddau fod, y perchennog yn 1999 yn ymylu ar gau ochr wastraff y busnes i ganolbwyntio ar weithgareddau eraill.

Cyngor

Ceisiwyd cyngor sawl cydnabod yn y math hwn o waith ac yr oedd pob un yn annog aros yn y busnes a gwneud y buddsoddiadau angenrheidiol i ailgylchu gwastraff.

Symyd ’mlaen

Bu i’r peiriannau newydd wella yr ailgylchu ond yr oedd gormod o amser yn cael ei dreulio ar sortio rhai sgipiau adeiladwyr felly i wella effeithiolrwydd gosodwyd safle ‘Trommel’ a phigo. Ar ddiwedd 2001, gosodwyd ‘weighbridge’ a oedd am y tro cyntaf yn caniatau pwyso manwl, prisio a chofnodi yr holl gynnyrch sy’n mynd mewn ac allan. Y mae hyn wedi amlygu fod yr amcangyfif cynt wedi bod yn geidwadol. Erbyn hyn y mae 75% o’r holl wastraff a dderbynir yn y safle yn cael ei ailgylchu. Y mae’r gwastraff ailgylchu yn cynnwys pridd da, brics a rwbel, cardbord, papur, metel sgrap, coed a gwastraff gwyrdd.

Hyforddiant

Y mae Williams a Williams Cyf wedi llwyddo i sicrhau’r wobr ‘Green Dragon’ lefel 2 ac y mae gan Meurig O Jones y cymhwyster CoTC i redeg canolfan drosglwyddo gwastraff.

Cyflogi

Y mae’r buddsoddiadau sylweddol gan Meurig Jones wedi sicrhau’r holl swyddi presennol yn ogystal â chreu swyddi ychwanegol gyda’r posibilrwydd o greu mwy. Y mae’r strwythur staffio wedi cynyddu’n raddol ers 1987 ac mae’r cwmni yn cyflogi tri ar ddeg yn barhaol yn ogystal â un swydd lawn amser dros dro yn ystod tymor prysur yr haf.

Gwobrwyon

Yn 2002 ennillod Williams a Williams yr ‘Arena Network Award’ yng nghategori Gwasanaethau a Nwyddau Amgylcheddol ac ym mis Mai 2006 Gwobr Busnes Cyngor Gwynedd unwaith eto am eu cyfraniad i’r amgylchedd.

Aelodaeth

Y mae Meurig Jones yn aelod o Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad Siartriedig Rheoli Gwastraff ac Arena Nework.

Sef. 1920