Bwriad y cwmni yw parhau i gynyddu ei ffigyrau ailgylchu. Mae'n bosibl gwneud hyn drwy ystyried ailgylchu gwydr a phlastig. Fodd bynnag bydd rhaid bod yn ofalus gan bod y farchnad mor bell o Benryn Llyn. Gallasai costau cludiant wneud y fenter yn aneconomaidd.
Mae gan y cwmni sylfaen cwsmeriaid sy'n cynyddu ac sy'n cynnwys cwmniau mawr a bach yn ogystal a nifer sylweddol o gwsmeriaid preifat. Amgeir rhestr engreifftiol yn Atodiad B er gwybodaeth.
Nod y cwmni yw cynnig gwasanaeth o'r ansawdd uchaf am bris cystadleuol drwy ddefnydd effeithiol o ailgylchu.
Mae'r gymuned leol yn bwysig iawn i mi a hoffwn godi proffil ailgylchu yng Ngwynedd.
Pe byddwn yn llwyddiannus ac yn ennill y dyfarniad yma, fe hoffwn fanteisio ar arbenigedd allanol sydd ar gael i hyrwyddo ailgylchu ymysg y genhedlaeth ifanc.
Rwy'n rhagweld rôl bwysig i dargedu ysgolion lleol gan fwydo i mewn i'r cwricwlwm drwy gynnig ymweliadau safle i bwysleisio pwysigrwydd ailgylchu. Yn amlwg, mewn maes mor newydd byddai angen cefnogaeth, arbenigedd a chydweithrediad gan Gyngor Gwynedd a'i chynghorwyr i sicrhau llwyddiant. Ond syniadau angen ei datblygu yn unig yw'r rhain ar hyn o bryd.
Hoffwn hefyd gymryd y sialens a osodwyd yn ddiweddar gan Arweinydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rhodri Morgan pan osododd eu targedau i ailgylchu 65% o bob gwastraff yng Nghymru erbyn 2006. Mae Williams a Williams yn ailgylchu 75% o'r gwastraff a dderbyniwn. Credaf fod hyn dangos fy mod yn gallu cyflawni - ac mai nid rhethreg yn unig yw'r hyn rwy'n ei ddweud.
Byddwn yn croesawu unrhyw gyfle i weithio'n strategol ac ymarferol mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd ac eraill er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau ailgylchu hyn, gostwng 'fly tipping' ac yn annog prosesau amgylcheddol da cymaint â phosib.
Gobeithiaf bod eich ymweliad a'r crynodeb byr o'r cwmni yn rhoi amlinelliad o'm ymroddiad i welliant a datblygiad parhaus.
Meurig Owain Jones
Perchennog
Williams a Williams