

Darparwn wasanaeth llogi sgip ar gyfer cwsmeriaid preifat, masnachol a diwydiannol.Y mae amrywiol sgipiau ar gael o sgipiau agored adeiladwyr, sgipiau caeedig ar gyfer deunydd ysgafn i sgipiau ‘roll on off’.
Pan wneir cais i leoli sgip ar y briffordd mae angen tridiau o rybudd i gael caniatâd gan Gyngor Gwynedd, byddwn yn llenwi’r ffurflen gais ar eich rhan.
Y mae gennym dywod adeiladu, tywod concrit, gro ‘all in’ (ar gyfer gwneud concrit) yn ogystal â cherrig a llechi addurniadol ar gael, wedi eu cludo mewn lori dipio neu eu casglu o’r iard. Nid oes lleiafswm ar faint y cyflenwad ond mae’r pris yn amrywio yn ôl y maint gofynnol.
Mae ein ysgubwyr ar gael i wasanaethu trwy ardaloedd Wynedd, Meirionydd, Mon a Chonwy. Gyda’r offer diweddaraf yn cynnwys “Superwash”
Y mae ein ‘jetter’ cyfaint uchel ar gael i lanhau traeniau a gwagio gwteri. Pan fo ganddoch broblem traen a.y.y.b. sy’n ail ymddangos y mae ganddom gamera gyda recordydd digidol i leoli ac adnabod y broblem / rhwystr.
Cynigiwn sawl gwasanaeth gan gynnwys, cludo llwythi trwm ar ‘Flat Bed’ e.e. peiriannau trymion, corff tipio ar gyfer gwerthu a chludo cynnyrch wedi’i ailgylchu yn cynnwys tywod, gro a ‘hardcore’, Uned Tanciau Septig, Llogi Cynwysyddion a Sgipiau Swmp.
Nod y Cwmni yw ailgychu ac ail ddefnyddio cymaint a bo modd. Caniataodd buddsoddi sylweddol mewn technoleg inni ailgylchu 75%+ mewn pwysau. Y defnyddiau sy’n cael eu hailgylchu ar hyn o bryd yw pridd, ‘hardcore’ metalau, gwastraff gwyrdd, coed, cardbord a plastig. Ein nod yw yn y dyfodol yw ailgylchu 85%.
Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Vivamus laoreet, libero ut eleifend tempor, mauris enim sollicitudin dui, non suscipit tortor pede id quam.